Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Os hoffech i ni gasglu gwastraff gardd o'ch cartref, gallwch gofrestru ar gyfer tanysgrifiad casglu gwastraff gardd. Os ydych eisoes yn tanysgrifio i'r gwasanaeth, ni fydd eich tanysgrifiad yn adnewyddu'n awtomatig ar gyfer gwasanaeth 2025/26. Tanysgrifiwch eto gan ddefnyddio eich cyfrif presennol os ydych am barhau i gasglu eich gwastraff gardd.
Rhowch fagiau gwastraff gardd ar ymyl eich eiddo erbyn 7am ar eich diwrnod casglu
Gallwch ‘nôl bagiau ychwanegol o’ch llyfrgell leol
Rhowch wybod am gasgliad gardd a fethwyd
Os byddai'n well gennych beidio â thanysgrifio i'n gwasanaeth newydd casglu gwastraff gardd, gallwch barhau i fynd â'ch gwastraff gardd i'ch Canolfan ailgylchu gwastraff cartref leol yn rhad ac am ddim neu gompostio gartref.
Mae tanysgrifiadau casglu gwastraff gardd blynyddol bellach ar agor ar gyfer 2025/26.Os byddwch yn cofrestru ar gyfer tanysgrifiad blynyddol, byddwn yn casglu eich gwastraff gardd bob pythefnos rhwng 03 Mawrth 2025 a 28 Tachwedd 2025. Byddwch yn gallu archebu casgliadau gwastraff gardd y gaeaf yn ôl eu hangen arnoch rhwng 01 Rhagfyr 2025 a 27 Chwefror 2026. Ni fydd casgliadau ar gael am bythefnos dros gyfnod y Nadolig. Fel y cytunwyd yn y Cyngor Llawn ar 10 Mawrth, y prisiau ar gyfer gwasanaeth 2025/26 yw:
Ddim eisiau tanysgrifio am flwyddyn lawn? Bydd gennych yr opsiwn i danysgrifio i wasanaeth hanner blwyddyn o fis Awst.
Darllenwch y Telerau ac Amodau cyn cofrestru ar gyfer tanysgrifiad casglu gwastraff gardd. Os ydych wedi tanysgrifio i'n gwasanaeth gwastraff gardd o'r blaen, defnyddiwch eich cyfrif presennol i danysgrifio ar gyfer casgliadau 2025/26. Peidiwch â chreu cyfrif newydd os gwelwch yn dda. Mae tanysgrifiadau gwastraff gardd wedi'u cofrestru i gyfrifon unigol. Os ydych chi am dalu am danysgrifiad rhywun arall, rhaid iddynt greu cyfrif yn eu henw eu hunain. Os oes gennych unrhyw broblemau, ffoniwch: 01446 729566.
Cofrestrwch ar gyfer casgliadau gwastraff gardd
Gwiriwch a yw casgliadau yn eich ardal yn cael eu gohirio ar hyn o bryd.
Nodwch eich cod post i wirio manylion eich casgliadau ailgylchu a gwastraff nesaf ac i drefnu e-byst atgoffa.
Polisi Preifatrwydd - Rheoli tanysgrifiadau
Browser does not support script.